| |
Merch
leol yw LOWRI EDWARDS.
Cafodd ei geni a'i magu ym mhentref Llanarthne. Mae
ganddi radd BA (Anrhydedd) mewn Rheoli Twristiaeth
a Hamdden o Athrofa Caerdydd. Mae Lowri'n rhugl yn
y Gymraeg a'r Saesneg a gall drafod gyda chi yn y
ddwy iaith.Mae'n awyddus i ddenu rhagor o aelodau
i'r CTA ac felly, os hoffech gofrestru gyda Tourlink
neu ymuno â Chymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr, ffoniwch:
01267 220366 neu ebostio: lowri@tourlink.co.uk |
| |
Yn
Abertawe y mae MICHELLE
EVANS yn byw ac mae
ganddi radd BA (Anrhydedd) o Athrofa Addysg Uwch Abertawe.
Mae Michelle wrthi'n dysgu Cymraeg mewn dosbarth nos
ac mae'n gobeithio cael digon o gyfle i ymarfer trwy
ei gwaith gyda Chymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr a tourlink.
Mae Michelle yn delio â cheisiadau am arwyddion twristiaeth
brown a gwyn yn Sir Gaerfyrddin ac yn rhoi grantiau
i aelodau'r CTA. Hi hefyd sy'n delio â'r adran Digwyddiadau
ar wefan tourlink ac felly mae'n awyddus iawn i glywed
am ddigwyddiadau yn Sir Gaerfyrddin. Os hoffech chi
roi sylw i ryw ddigwyddiad ar wefan tourlink neu holi
am arwyddion twristiaeth, ffoniwch 01267 220366 neu
ebostio: michelle@tourlink.co.uk
|
Bydd y bleser gan
Michelle neu Lowri siarad â chi am unrhyw agwedd ar fyd
twristiaeth, a gallant eich helpu i roi eich busnes ar
wefan tourlink mewn dim o dro!
 |