| 8. YMWADIAD
8.1 Mae’r Wefan ar gael i chi “FEL Y MAE”
heb sicrwydd ynghylch ansawdd, addasrwydd at y diben,
nad yw’n torri hawliau, nac argaeledd. Ni ddylid
dibynnu ar y wybodaeth na’r cyngor sydd ar gael
ar y Wefan wrth wneud penderfyniadau personol, technegol,
peirianyddol, hanesyddol, cyfreithiol nac ariannol ac
argymhellwn eich bod yn ymgynghori â gweithiwr proffesiynol
priodol i gael cyngor penodol sy’n addas ar gyfer
eich amgylchiadau chi.
8.2 Ni all Tourlink warantu cywirdeb defnydd a osodir
ar y Wefan hon gan drydydd partïon ac mae’n
gwrthod yn bendant gyfrifoldeb dros wallau, hepgoriadau
neu anghywirdeb yn y defnydd, camddehongli, neu unrhyw
golled, siom, esgeulustod neu ddifrod a achosir os dibynnir
ar y defnydd a geir yn y wefan hon neu unrhyw fethiant
neu fethiant honedig i gyflenwi’r gwasanaethau y
cyfeirir atynt yma, neu os bydd unrhyw gwmni, unigolyn
neu fusnes y cyfeirir atynt yma yn mynd yn fethdalwyr,
yn ymddatod neu’n rhoi’r gorau i fasnachu.
8.3 YN AMODOL AR GYMAL 8.4, NI FYDD TOURLINK YN GYFRIFOL
DROS UNRHYW IAWNDAL (YN CYNNWYS, HEB GYFYNGIAD, IAWNDAL
AM GOLLI BUSNES NEU GOLLI ELW) SY’N CODI MEWN CONTRACT,
CAMWEDD (YN CYNNWYS ESGEULUSTOD NEU DORRI DYLETSWYDD STATUDOL
NEU RYWBETH ARALL O GANLYNIAD I DDEFNYDDIO NEU FETHU DEFNYDDIO’R
WEFAN HON, NEU UNRHYW DDEFNYDD SYDD YNDDI, NEU O UNRHYW
GAM NEU BENDERFYNIAD A GYMERIR O GANLYNIAD I DDEFNYDDIO’R
WEFAN HON NEU UNRHYW DDEFNYDD O’R MATH.
8.4 Rydym yn cymryd cyfrifoldeb am farwolaeth neu niwed
personol a achosir gan ein hesgeulustod ni neu sy’n
codi o gamliwio twyllodrus gennym ni.
Dyddiad: [1af Awst 2002]
Rhif y fersiwn: [001]
|