| 7. POLISI PREIFATRWYDD
7.1 Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol a all gynnwys
eich enw, eich cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif
ffôn os byddwch yn dymuno cofrestru digwyddiad,
yn gofyn am gopïau o lenyddiaeth neu wybodaeth i
dwristiaid, neu’n ymateb i’r Wefan neu wasanaethau
eraill i ymwelwyr.
7.2 Cytunwn i drin eich manylion personol yn gyfrinachol
ac i gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw pobl heb ganiatâd
yn cael eu gweld. Yn ogystal, byddwn yn defnyddio’r
wybodaeth hon i brosesu eich ceisiadau am wybodaeth i
dwristiaid neu gopïau o daflenni ac ati neu i grynhoi
ymateb ar y Wefan. Rydych yn rhoi caniatâd i ni
i ddefnyddio, storio a phrosesu’r wybodaeth hon
at y dibenion hyn.
7.3 Yn ogystal, gallwn ddefnyddio'ch manylion personol
at ddibenion gweinyddu, marchnata ac ystadegau. Gallwn
rannu’ch manylion hefyd gyda sefydliadau sy’n
bartneriaid busnes i ni. Gallwn ni neu’n partneriaid
busnes gysylltu â chi trwy’r post neu dros
y ffôn, y ffacs neu’r e-bost i roi gwybod
i chi am nwyddau, gwasanaethau neu gynigion arbennig a
all fod o ddiddordeb i chi. Os na fyddwch yn dymuno cael
gwybodaeth fel hyn oddi wrthym ni neu’n partneriaid
busnes, mae gennych hawl i ddewis peidio â derbyn
y wybodaeth. Gallwch wneud hynny trwy roi tic yn y blwch
perthnasol yn yr adrannau o’r Wefan hon lle'r anfonir
manylion personol.
7.4 Mae gennych hawl i weld y wybodaeth hon ac i ofyn
i ni ei diweddaru, ei newid neu ei thynnu o’n cofnodion
unrhyw bryd ac am unrhyw reswm. Os oes gennych gwestiynau
am sut yr ydym yn defnyddio’ch data neu os hoffech
ofyn i ni ddiweddaru neu newid eich manylion neu eu tynnu
o’n cofnodion, anfonwch e-bost atom yn info@tourlink.co.uk
neu ysgrifennwch atom yn 62 Heol y Brenin, Caerfyrddin,
SA31 6BA
7.5 Rydym yn defnyddio cwcis ar y Wefan hon, sef meddalwedd
sy’n proffilio’r defnydd a wnewch o’r
Wefan. Er mwyn analluogi’r cwcis, newidiwch y gosodiadau
ar y meddalwedd pori’r Rhyngrwyd ar eich cyfrifiadur.
Dyddiad: [1af Awst 2002]
Rhif y fersiwn: [001]
|