POLISI PREIFATRWYDD A THELERAU AR GYFER DEFNYDDIO GWEFAN TOURLINK

GWYBODAETH BWYSIG

DYMA’R TELERAU Y MAE’N RHAID I CHI EU DERBYN AR GYFER MYND I’R WEFAN A’I DEFNYDDIO. DARLLENWCH NHW’N OFALUS GAN EU BOD YN NODI EIN RHWYMEDIGAETHAU NI A CHITHAU, EIN POLISI PREIFATRWYDD AC YMWADIADAU ATEBOLRWYDD. OS YDYCH YN MYND I’R WEFAN NEU YN EI DEFNYDDIO, CYFRIFIR EICH BOD YN DERBYN Y TELERAU HYN A’N POLISI PREIFATRWYDD.

1. Y WEFAN
1.1 Tourlink yw Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr o 62 Heol y Brenin, Caerfyrddin, SA31 6BA ac Antur Teifi o Barc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castellnewydd Emlyn, SA38 9DB yn masnachu fel Mentrau Sir Gaerfyrddin.

1.2 Mae Tourlink yn rhedeg gwefan (“y Wefan”) lle mae busnesau twristiaeth (“Busnesau”) yn gosod data i hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau sy’n ymwneud â’r diwydiant twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin. Sylwch: Os ydych yn gohebu â Busnes, yn delio â Busnes neu’n archebu nwyddau neu wasanaethau a gaiff eu hyrwyddo yn y Wefan gan Fusnes, gyda’r Busnes hwnnw y mae eich masnach a'ch contract, a thelerau ac amodau’r Busnes hwnnw a fydd mewn grym. Ni fyddwch yn ymrwymo i gontract â Tourlink ac ni fydd gennym ni unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled neu ddifrod sy'n digwydd o ganlyniad i unrhyw ymwneud â'r Busnesau hyn.

1.3 Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr ac Antur Teifi sy’n darparu mynediad i wefan Tourlink (“y Wefan”) a’r cyfle i’w defnyddio.

1.4 Caiff Tourlink ei ran-ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd trwy’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.

1.5 Rydym yn cadw’r hawl i newid y telerau hyn unrhyw bryd ar ôl rhoi rhybudd neu heb roi rhybudd i chi. Chi sy’n gyfrifol am ddarllen y telerau’n rheolaidd i gael gwybod am unrhyw newidiadau. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio’r Wefan ar ôl i newidiadau felly gael eu gwneud, cyfrifir eich bod yn derbyn y newidiadau hynny.

2. HAWLIAU YN Y WEFAN A’R CYNNWYS
2.1 Mae hawlfraint y Wefan ei hunan a'r holl gynnwys a meddalwedd sy’n rhan ohoni, ynghyd â’r holl hawliau eiddo deallusol eraill o bob math (yn cynnwys hawliau ar y cronfeydd data a’r dylunio) sydd yn y Wefan yn eiddo i ni neu mae gennym drwydded ar eu cyfer.

2.2 Mae’r Wefan a’i holl gynnwys ar gael i chi (sy’n golygu y cewch edrych ar wybodaeth sydd wedi'i gosod ar y wefan, ei lawrlwytho, ei chopïo a'i hargraffu) yn unig ar gyfer eich defnydd personol, anfasnachol chi ac nid ar gyfer unrhyw ddefnydd na diben arall o gwbl.

2.3 Ein nodau perchnogol ni yw’r delweddau, y logos, yr enwau masnachol a’r nodau masnach a ddefnyddir ar y Wefan i gyfeirio at Tourlink, Antur Teifi, Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr a Mentrau Sir Gaerfyrddin neu eu gwahanol wasanaethau, pa un a ydynt wedi’u cofrestru ai peidio. Ni chaniateir i chi ddefnyddio'r enwau na'r logos hyn heb gael ein caniatâd ysgrifenedig ni ymlaen llaw.

2.4 Mae unrhyw ddelweddau, logos, enwau a nodau masnach ar y Wefan sy’n cyfeirio at Fusnesau (neu drydydd partïon eraill), eu nwyddau neu eu gwasanaethau, yn eiddo i’r Busnes neu’r trydydd parti perthnasol; cânt eu defnyddio gyda’u caniatâd nhw ac maent yn amodol ar y cyfyngiadau a nodir yng Nghymal 2.2. Nid oes dim yn y Wefan yn rhoi unrhyw hawliau mewn perthynas â’r delweddau, y logos, yr enwau na’r nodau masnach hyn.

3. NATUR Y GWASANAETH A PHRYD Y BYDD AR GAEL
3.1 Rydym yn ceisio sicrhau gwasanaeth parhaus, heb wallau, ond ni allwn warantu y bydd y Wefan ar gael trwy’r amser ac na fydd arni wallau. I’r graddau y caniateir hynny gan y gyfraith, ni fyddwn yn cymryd cyfrifoldeb sy’n codi o wallau ar y Wefan neu'r ffaith nad yw ar gael.

3.2 Er ein bod yn defnyddio meddalwedd gwrth-firysau i warchod cynnwys y Wefan rhag firysau hysbys, ni allwn warantu na fydd firysau neu godau maleisus yn y defnydd [neu’r lawrlwythiadau] ar y Wefan. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi cymryd gofal i warchod eich system gyfrifiadurol chi rhag firysau ac ati.

4. Y WYBODAETH SYDD AR GAEL AR Y WEFAN
4.1 Rydym yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar y Wefan (yn cynnwys yr holl lenyddiaeth) yn gywir. Fodd bynnag, ni allwn warantu ei bod yn gywir ac fe’ch cynghorir i holi unrhyw Fusnes yr ydych yn cysylltu â nhw neu’n archebu oddi wrthynt a yw’r wybodaeth yn gywir. Rhowch wybod i ni os gwyddoch am rywbeth nad yw’n gywir ac fe gymerwn gamau i gywiro’r sefyllfa.

4.2 Rydych chi’n cydnabod mai trydydd partïon sy’n cyflwyno neu’n lanlwytho gwybodaeth, negeseuon neu ddefnyddiau eraill i rannau o’r Wefan sy’n llwyr gyfrifol am y defnydd hwnnw (ac nid Tourlink). Nid oes gennym reolaeth dros y defnydd a osodir mewn rhai rhannau o’r Wefan (sy’n cynnwys y fforwm a’r stafell sgwrsio a rhannau eraill o’r wefan). Rydych chi’n deall y gallech weld defnydd sy’n anghywir, yn achosi tramgwydd, yn anweddus neu’n annymunol trwy ddefnyddio’r cyfleusterau hyn. Ni fyddwn ni'n gyfrifol mewn unrhyw ffordd, nac o dan unrhyw amgylchiadau, am unrhyw wybodaeth sydd ar gael yn y rhannau hyn o'r Wefan, yn cynnwys unrhyw wallau neu hepgoriadau neu unrhyw golled neu ddifrod sy'n digwydd o ganlyniad i ddefnyddio’r wybodaeth neu’r defnyddiau hyn. Os gwelwch ddefnydd sy’n anghywir, yn achosi tramgwydd neu’n annymunol mewn ffordd arall yn y rhannau hyn o’r Wefan, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ein gorau i gael gwared ag ef.

4.3 Rydych yn cael hawl i ddefnyddio’r meddalwedd sy’n rhan o’r Wefan ac sy’n galluogi defnyddwyr i anfon defnydd i’r Wefan ar yr amod bod gennym ni drwydded anghyfyngol, diddiwedd a heb freindal i ddefnyddio’r defnydd hynny at bob diben ac ym mhob cyfrwng yn cynnwys y Wefan, ond nid y Wefan yn unig. Mae’r hawl hon yn amodol hefyd ar gael gwarant gennych chi fod y defnydd hwn yn wreiddiol, nad yw’n tresbasu ar hawliau trydydd partïon ac nad yw’n cynnwys defnydd a allai achosi gofid, tramgwydd na niwed i eraill. Rydych yn cytuno trwy hyn i’n hindemnio ni rhag unrhyw golled neu ddifrod y gallem eu dioddef o ganlyniad i hawliad a ddygir gan drydydd parti bod y defnydd a gafwyd gennych chi yn tresbasu ar hawliau trydydd parti neu’n achosi gofid, niwed neu dramgwydd.

5. CYSYLLTIADAU Â GWEFANNAU ALLANOL
5.1 O bryd i’w gilydd, gall y Wefan hon gynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill (“gorgysylltiadau”). Er hwylustod i chi yn unig y mae’r gorgysylltiadau hyn. Os dewiswch ddilyn unrhyw orgysylltiad, byddwch yn gadael y Wefan. Nid ydym yn rheoli nac yn cymeradwyo cynnwys unrhyw wefan arall (ac felly ni allwn fod yn gyfrifol amdano) ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb sy’n deillio o’ch defnydd chi o’r gorgysylltiadau (yn cynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw gyfrifoldeb dros ddefnydd anghywir, difenwol, anweddus neu dramgwyddus a roddir ar wefannau y mae cysylltiadau rhyngddynt â'r Wefan hon). Pan fyddwch yn gadael y Wefan, telerau’r wefan yr ewch iddi fydd yn berthnasol i’r defnydd a wnewch o’r wefan honno.

6. DEFNYDDIO A STORIO
6.1 Rydych yn cydnabod y gallwn sefydlu arferion cyffredinol a chyfyngiadau ar y defnydd a wneir o’r Wefan i gyd neu rannau ohoni, yn cynnwys (heb gyfyngiad) y nifer fwyaf o ddyddiau y bydd negeseuon ar yr hysbysfwrdd, gwybodaeth am ddigwyddiadau, llenyddiaeth neu gynnwys arall a lanlwythir yn cael eu cadw ar y Wefan.
6.2 Rydych yn cytuno nad oes gennym ni gyfrifoldeb nac atebolrwydd os caiff unrhyw ddefnydd o’r fath ei ddileu neu os na chaiff ei gadw. Rydych hefyd yn cydnabod ein bod ni'n cadw’r hawl i newid yr arferion cyffredinol a’r cyfyngiadau hyn unrhyw bryd, os byddwn ni’n dewis gwneud hynny, gan roi rhybudd i chi neu beidio.

7. POLISI PREIFATRWYDD
7.1 Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol a all gynnwys eich enw, eich cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn os byddwch yn dymuno cofrestru digwyddiad, yn gofyn am gopïau o lenyddiaeth neu wybodaeth i dwristiaid, neu’n ymateb i’r Wefan neu wasanaethau eraill i ymwelwyr.

7.2 Cytunwn i drin eich manylion personol yn gyfrinachol ac i gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw pobl heb ganiatâd yn cael eu gweld. Yn ogystal, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i brosesu eich ceisiadau am wybodaeth i dwristiaid neu gopïau o daflenni ac ati neu i grynhoi ymateb ar y Wefan. Rydych yn rhoi caniatâd i ni i ddefnyddio, storio a phrosesu’r wybodaeth hon at y dibenion hyn.

7.3 Yn ogystal, gallwn ddefnyddio'ch manylion personol at ddibenion gweinyddu, marchnata ac ystadegau. Gallwn rannu’ch manylion hefyd gyda sefydliadau sy’n bartneriaid busnes i ni. Gallwn ni neu’n partneriaid busnes gysylltu â chi trwy’r post neu dros y ffôn, y ffacs neu’r e-bost i roi gwybod i chi am nwyddau, gwasanaethau neu gynigion arbennig a all fod o ddiddordeb i chi. Os na fyddwch yn dymuno cael gwybodaeth fel hyn oddi wrthym ni neu’n partneriaid busnes, mae gennych hawl i ddewis peidio â derbyn y wybodaeth. Gallwch wneud hynny trwy roi tic yn y blwch perthnasol yn yr adrannau o’r Wefan hon lle'r anfonir manylion personol.

7.4 Mae gennych hawl i weld y wybodaeth hon ac i ofyn i ni ei diweddaru, ei newid neu ei thynnu o’n cofnodion unrhyw bryd ac am unrhyw reswm. Os oes gennych gwestiynau am sut yr ydym yn defnyddio’ch data neu os hoffech ofyn i ni ddiweddaru neu newid eich manylion neu eu tynnu o’n cofnodion, anfonwch e-bost atom yn info@tourlink.co.uk neu ysgrifennwch atom yn 62 Heol y Brenin, Caerfyrddin, SA31 6BA

7.5 Rydym yn defnyddio cwcis ar y Wefan hon, sef meddalwedd sy’n proffilio’r defnydd a wnewch o’r Wefan. Er mwyn analluogi’r cwcis, newidiwch y gosodiadau ar y meddalwedd pori’r Rhyngrwyd ar eich cyfrifiadur.

8. YMWADIAD
8.1 Mae’r Wefan ar gael i chi “FEL Y MAE” heb sicrwydd ynghylch ansawdd, addasrwydd at y diben, nad yw’n torri hawliau, nac argaeledd. Ni ddylid dibynnu ar y wybodaeth na’r cyngor sydd ar gael ar y Wefan wrth wneud penderfyniadau personol, technegol, peirianyddol, hanesyddol, cyfreithiol nac ariannol ac argymhellwn eich bod yn ymgynghori â gweithiwr proffesiynol priodol i gael cyngor penodol sy’n addas ar gyfer eich amgylchiadau chi.

8.2 Ni all Tourlink warantu cywirdeb defnydd a osodir ar y Wefan hon gan drydydd partïon ac mae’n gwrthod yn bendant gyfrifoldeb dros wallau, hepgoriadau neu anghywirdeb yn y defnydd, camddehongli, neu unrhyw golled, siom, esgeulustod neu ddifrod a achosir os dibynnir ar y defnydd a geir yn y wefan hon neu unrhyw fethiant neu fethiant honedig i gyflenwi’r gwasanaethau y cyfeirir atynt yma, neu os bydd unrhyw gwmni, unigolyn neu fusnes y cyfeirir atynt yma yn mynd yn fethdalwyr, yn ymddatod neu’n rhoi’r gorau i fasnachu.

8.3 YN AMODOL AR GYMAL 8.4, NI FYDD TOURLINK YN GYFRIFOL DROS UNRHYW IAWNDAL (YN CYNNWYS, HEB GYFYNGIAD, IAWNDAL AM GOLLI BUSNES NEU GOLLI ELW) SY’N CODI MEWN CONTRACT, CAMWEDD (YN CYNNWYS ESGEULUSTOD NEU DORRI DYLETSWYDD STATUDOL NEU RYWBETH ARALL O GANLYNIAD I DDEFNYDDIO NEU FETHU DEFNYDDIO’R WEFAN HON, NEU UNRHYW DDEFNYDD SYDD YNDDI, NEU O UNRHYW GAM NEU BENDERFYNIAD A GYMERIR O GANLYNIAD I DDEFNYDDIO’R WEFAN HON NEU UNRHYW DDEFNYDD O’R MATH.

8.4 Rydym yn cymryd cyfrifoldeb am farwolaeth neu niwed personol a achosir gan ein hesgeulustod ni neu sy’n codi o gamliwio twyllodrus gennym ni.

9. CYFFREDINOL
9.1 Rheolir y telerau hyn gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, a bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o’r telerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr.

9.2 Cafodd penawdau adrannau eu cynnwys er hwylustod yn unig. Ni ddylid eu hystyried yn rhan o’r telerau ac ni ddylid eu defnyddio i’w dehongli.

9.3 Os bernir bod un neu fwy o’r telerau hyn yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, caiff hwnnw ei dorri allan a’i ddileu a bydd y telerau sydd ar ôl yn parhau yn orfodol ac yn orfodadwy.

9.4 Nid oes dim yn y telerau hyn yn creu unrhyw hawl neu fuddiant i unrhyw drydydd parti o dan y Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999.

9.5 Ni fyddwn yn gyfrifol dros unrhyw golled a gewch ac ni fernir ein bod ni’n ddiffygiol os ceir oedi neu fethiant o ganlyniad i weithredu neu achosion y tu hwnt i'n rheolaeth resymol ni neu sy'n deillio o drychineb naturiol, deddfau neu reoliadau unrhyw awdurdod llywodraethol neu ryngwladol neu os nad yw’n gweinyddion ni’n gweithio.

9.6 Os dymunwch gysylltu â ni ynghylch ein Gwefan, e-bostiwch info@tourlink.co.uk neu ffonio 01267-220366. Gellir anfon rhybuddion cyfreithiol trwy’r post at Tourlink, 62 Heol y Brenin, Caerfyrddin, SA32 6BA

10. DEHONGLI
10.1 Yn y telerau hyn, mae ‘Ni’ ac ‘Ein’ yn golygu Tourlink a ‘Chi’, ‘Eich’ a ‘Chithau’ yn golygu’r unigolyn sy’n dymuno defnyddio’r Wefan.

Dyddiad: [1af Awst 2002]
Rhif y fersiwn: [001]

Cysylltu â NI | Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Ymwadiad